EDUCATION
Developing an audience for the work, for the company and for dance in general is a priority for Gwyn Emberton Dance. Working with venues and the local dance community is integral to this.
One of the company’s major strengths is in supporting audience development through the inspiring outreach packages the company offers. These highly successful and popular workshops and master classes that can be tailored to suit the needs of any group or organisation with the aim of full practical participation, leading to understanding and appreciation of the work and of dance in general.
Classes and workshops
These will be led either by Gwyn and/or the dancers and can range from one hour classes to full day intensives and everything in between.
From ages 11 upwards. All abilities welcome. Groups max 25 ideally.
Composition for choreography workshops with Gwyn and the composers can be arranged.
Residencies
Either a few days or a week-long residency working with Gwyn and the dancers to create a new work with a group of up to 20, that can sometimes be a curtain raiser.
Ideal for schools or dance schools during holiday times. From ages 12 upwards. All abilities welcome. Groups max 25 ideally.
ADDYSG
Mae datblygu cynulleidfa ar gyfer y gwaith, y cwmni ac ar gyfer dawnsio’n gyffredinol yn flaenoriaeth i Gwyn Emberton Dance. Mae cydweithio â lleoliadau a’r gymuned dawnsio leol yn rhan annatod o hyn.
Un o brif gryfderau’r cwmni yw cefnogi’r gwaith o ddatblygu cynulleidfaoedd drwy’r pecynnau estyn allan ysbrydoledig y mae’r cwmni’n eu cynnig. Gellir teilwra’r gweithdai a’r dosbarthiadau meistr poblogaidd a llwyddiannus iawn hyn i gyd-fynd ag anghenion unrhyw grŵp neu sefydliad, gyda’r nod o sicrhau cyfranogiad ymarferol llawn, ac mae hyn yn arwain at ddeall a gwerthfawrogi’r gwaith a dawnsio’n gyffredinol.
Dosbarthiadau a gweithdai
Caiff rhain eu harwain gan naill ai Gwyn a/neu’r dawnswyr ac maent yn amrywio o fod yn ddosbarthiadau un awr i fod yn rhai dwys sy’n para diwrnod cyfan, a phopeth rhwng y ddau.
11 oed neu’n hŷn. Croeso i bob gallu. Uchafswm o 25 ym mhob grŵp, yn ddelfrydol.
Gellir trefnu gweithdai cyfansoddi ar gyfer coreograffi gyda Gwyn a’r cyfansoddwyr.
Preswylfeydd
Preswylfa am naill ai ychydig o ddiwrnodau neu am wythnos yn cydweithio â Gwyn a’r dawnswyr i greu gwaith newydd gyda grŵp o hyd at 20, ac weithiau bydd hyn yn cael ei ddefnyddio fel perfformiad byr cyn sioe arall.
Mae hyn yn berffaith i ysgolion neu ysgolion dawns yn ystod y gwyliau. 12 oed neu’n hŷn. Croeso i bob gallu. Uchafswm o 25 ym mhob grŵp, yn ddelfrydol.